Mae Dawn yn derfynwraig deilwng ar gyfer y Wobr Prentis Cyfrifeg y Flwyddyn oherwydd ei hymrwymiad i'w hastudiaethau a'i hagwedd o "ddal ati". Dechreuodd ei lefel 3 yn Hydref 2020 wedi gorffen ei lefel 2 ynghanol y pandemig Covid; drwy gydol ei hastudiaethau gweithiodd mewn rôl allweddol yng Ngwasanaeth Tân Gogledd Cymru fel swyddog Cyllid.
Gan ddangos ymrwymiad nodweddiadol i'w gwaith, gweithiodd Dawn yn hyblyg rhwng y cartref a'r swyddfa gan ddarparu cefnogaeth ychwanegol i'r sefydliad a alluogodd barhad yn y gwasanaeth hanfodol hwn mewn amserau heriol.
O ran yr astudio cafodd Dawn y Lefel 3 yn her o ran yr amser y gallai ei neilltuo i baratoi ar gyfer yr arholiad. Er gwaethaf methu rhai o'i arholiadau y tro cyntaf, gweithiodd Dawn yn galed i gyrraedd y safon ofynnol a gyda chefnogaeth adolygodd ei chanlyniadau a gwnaeth y gwaith angenrheidiol i basio, gwneud cynnydd a datblygu ei sgiliau cyllid ymhellach.
Diolch i'w holl waith paratoi, pan safodd ei arholiad diwedd y flwyddyn fe basiodd Dawn ef ar y cynnig cyntaf. Mae ei hagwedd gadarnhaol mewn amgylchedd heriol, a'r gwelliannau mawr a wnaeth drwy gydol y brentisiaeth yn gwneud i Dawn sefyll allan ymysg ei chyfoedion.