English

manual override of alt text

GWOBRAU PRENTISIAETHAU 2023

PRENTIS Y FLWYDDYN

Chwaraeon, Addysg & Gofal Plant

YN ÔL



DEWIS EICH ENWEBAI

manual override of alt text

Ryan Johnson-Wilcocks

Ysgol Maes y Felin Mwy am Ryan Johnson-Wilcocks
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Chwaraeon, Addysg & Gofal Plant

Ryan Johnson-Wilcocks

Ysgol Maes y Felin

Roedd Ryan yn ddysgwr pryderus iawn ar y dechrau heb lawer o hyder. Roedd wedi gadael addysg bellach oherwydd nad oedd yn teimlo ei fod yn academaidd iawn. Drwy ddamwain gwelodd Ryan gyfle i gwblhau cwrs hyfforddi ym maes chwaraeon mewn hysbys ar y cyfryngau cymdeithasol ac mi benderfynodd fynd amdani a chofrestru arno. Roedd ei agwedd a'i bresenoldeb yn ardderchog ac roedd yn ffynnu yn yr amgylchedd dysgu.

Wrth i hyder Ryan godi, aeth ymlaen drwy'r cyrsiau a chanfod ei swydd ddelfrydol fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu yn Ysgol Maes y Felin. Unwaith eto cafodd gyfle i ffynnu yn yr amgylchedd dysgu ac roedd yn sefyll allan yn ei rôl yn cefnogi dysgu.

Roedd ei fentoriaid yn y gweithle yn llawn canmoliaeth iddo ac mae o'n mwynhau cynorthwyo plant yn yr amgylchedd dysgu. Cafodd farciau ardderchog yn ystod yr arsylwadau yn y gweithle ac er iddo gael trafferth gydag ambell beth, datblygodd ei waith academaidd i safon dda. Llwyddodd i ennill cymhwyster Lefel 2 mewn Rhifedd, Llythrennedd a Llythrennedd Digidol yn ogystal â gweithio ar ei raglen dysgu.

Mae Ryan yn gweithio yn yr ysgol erbyn hyn ac yn cwblhau gwaith ar gyfer ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Addysgu. Mae o'n mwynhau cefnogaeth ei diwtoriaid ac yn gwrando'n ofalus ar adborth er mwyn datblygu ymhellach yn unigolion hyderus a chymwys.

manual override of alt text

Nyrie-Paige Rushby

St David's High School Mwy am Nyrie-Paige Rushby
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Chwaraeon, Addysg & Gofal Plant

Nyrie-Paige Rushby

St David's High School

Gadawodd Nyrie yr ysgol fis Mai 2018 i ddilyn ei nod o fod yn athrawes, ac o fewn dim llwyddodd i gael lleoliad gwaith yn St David's HIgh School a dechrau yn llawn addewid drwy gofrestru ar gymhwyster Cefnogi Dysgu ac Addysgu Lefel 2. Ond ar ôl pedwar mis, penderfynodd Nyrie chwilio am leoliad gwaith arall mewn ysgol gynradd oherwydd doedd hi ddim yn teimlo bod gweithio mewn ysgol uwchradd yn gweddu iddi.

Cafodd leoliad gwaith yn ysgol gynradd Fferi Isaf a chwblhaodd ei chymwysterau Lefel 2 a 3 mewn Cefnogi Dysgu ac Addysgu. Mae hi'n aelod gwerthfawr o dîm Ysgol Gynradd Fferi Isaf.

Fel rhan o'i gwaith fel cynorthwyydd Dysgu mae Nyrie yn gweithio gyda grwpiau bach o blant sydd angen rhagor o gefnogaeth gyda thasgau llythrennedd neu rifedd. Gall hyn gynnwys gweithio gyda phlant ag anghenion dysgu arbennig (ADA)

Wedi iddi orffen y brentisiaeth aeth Nyrie ati i ddilyn hyfforddiant perthnasol, er enghraifft hyfforddiant ysgolion coedwig. Erbyn hyn mae Nyrie'n rhedeg ysgol goedwig Ysgol Gynradd Fferi Isaf bob dydd Mercher gydag aelod arall o staff llawn amser. Ei nod yn y dyfodol ydy mynd i'r brifysgol i gwblhau cwrs TAR a chymhwyso i fod yn athrawes.

manual override of alt text

Jackie Travis

Springfield Day Nurseries Mwy am Jackie Travis
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Chwaraeon, Addysg & Gofal Plant

Jackie Travis

Springfield Day Nurseries

Mae Jackie sy'n weithiwr gofal plant, wedi cwblhau ei hyfforddiant drwy brentisiaethau yn unig ac wedi datblygu ei gyrfa, mae hi bellach yn rheolwr cynorthwyol ym meithrinfa 'Springfield Day Nurseries'.

Roedd Jackie'n bryderus am ddilyn y cwrs Arwain a Rheoli Lefel 5, doedd hi ddim yn hyderus iawn, ond wrth i'r cwrs fynd rhagddi ac wrth i Jackie weithio drwy'r cymhwyster, fe sylweddolodd bod ganddi'r wybodaeth ac mi gododd ei hyder.

Cynigiwyd y swydd rheolwr i Jackie o fewn dim; ac mae hi wedi cael cyfle i ddefnyddio ei sgiliau rheoli i gefnogi ei staff wrth iddynt gwblhau eu cymwysterau yn llwyddiannus.

Llwyddodd Jackie i gwblhau ei chymhwyster ei hun a lluniodd bortffolio sylweddol oedd yn arddangos ei gwybodaeth a'i chymhwysedd. Roedd gofyn iddi hefyd gwblhau cymwysterau sgiliau hanfodol lefel uwch mewn cyfathrebu a chymhwyso rhif, ac mi lwyddodd i gyflawni'r her er gwaetha'r ffaith bod Mathemateg yn codi ofn arni ers pan oedd yn ifanc.

Gweler ein henillwyr blaenorol