
Gyda thros 200 mlynedd o brofiad yn arloesi datrysiadau i fesur y byd, ymddiriedir yng nghynnyrch a gwasanaethau Leica Geosystems gan bobl broffesiynol ledled y byd i'w helpu i ddal, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth ofodol. Mae Leica Geosystems yn fwyaf adnabyddus am ei amrediad eang o gynnyrch sydd yn dal yn gywir, yn modelu yn gyflym, yn dadansoddi yn hawdd ac yn delweddu a chyflwyno gwybodaeth ofodol.
Mae'r rhai sy'n defnyddio cynnyrch Leica Geosystems pob dydd yn ymddiried ynddynt am eu dibynadwyedd, y gwerth a ddarparant a'r gefnogaeth cwsmer o ansawdd uwch. Wedi ei leoli yn Heerbrugg, Swisdir, mae Leica Geosystems yn gwmni byd-eang gyda degau o filoedd o gwsmeriaid wedi eu cefnogi gan fwy na 3,800 o weithwyr mewn 33 o wledydd a channoedd o bartneriaid wedi eu lleoli mewn mwy na 120 o wledydd o gwmpas y byd. Mae Leica Geosystems yn rhan o Hexagon, Sweden.