English

manual override of alt text

GWOBRAU PRENTISIAETHAU 2023

PRENTIS Y FLWYDDYN

Peirianneg & Gweithgynrhyrchu

YN ÔL



DEWIS EICH ENWEBAI

manual override of alt text

Natalie Eddleston

RWE Mwy am Natalie Eddleston
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Peirianneg & Gweithgynrhyrchu

Natalie Eddleston

RWE

Daeth Natalie i mewn i’r diwydiant Peirianneg gan ddilyn llwybr anghonfensiynol – HWYLIO. Wedi treulio sawl mlynedd yn gweithio yn rhan o griw ar fyrddau amrywiol Gychod Hwylio Arbennig.

Er nad oedd ganddi brofiad blaenorol ym maes peirianneg, cofrestrodd ar y cwrs llawn amser Peirianneg Pŵer Trydanol – Cynnal a Chadw Tyrbinau Gwynt (Gwybodaeth Dechnegol) yng Ngholeg Llandrillo a phasiodd y cwrs gyda graddau ardderchog. Defnyddiodd Natalie y wybodaeth ddamcaniaethol a’r sgiliau ymarferol a oedd wedi’u datblygu ar y cwrs er mwyn ennill un o bedwar Prentisiaeth yr RWE sydd yn cael eu cynnig yng Ngogledd Cymru a hynny ymhlith 400 o ymgeiswyr.

Ym Medi 2020 dechreuodd Natalie ei Phrentisiaeth RWE oedd yn dair blynedd o hyd, ac yn ystod y cyfnod hwn mae hi wedi ennill cymysgedd heriol o gymwysterau academaidd ac ymarferol er mwyn ei pharatoi ar gyfer rôl technegydd tyrbinau gwynt. Hefyd, mae hi wedi defnyddio’r wybodaeth oedd ganddi yn flaenorol i gynorthwyo ei chyfoedion gyda’u hastudiaethau.

Mae Natalie yn benderfynol o lwyddo, gan ennill y graddau uchaf yn y cynnwys damcaniaethol gan berfformio i safon uchel mewn tasgau ymarferol. Cwblhaodd ei Fframwaith Brentisiaeth L2 mewn Gwella Perfformiad Gweithredol yn llwyddiannus ac ar hyn o bryd mae’n gweithio tuag at L3 yn y Fframwaith Gweithrediadau a Gwaith Cynnal Tyrbinau Gwynt (O&M).

Mae Natalie yn gwthio ei hun i fod y gorau posib ac yn aml hi sydd fwyaf beirniadol o’i gwaith ei hun. Mae ei hethos waith yn esiampl i eraill ac mae hi wedi profi i bawb, ac yn anad dim iddi hi ei hun, ei bod yn gallu gwneud Peirianneg! Cydnabuwyd hyn pan dderbyniodd y wobr IMECHE: Y Prentis sydd wedi Gwella Fwyaf yn y Flwyddyn 2021.

manual override of alt text

Derwyn John Roberts

Glaslyn Ices Mwy am Derwyn John Roberts
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Peirianneg & Gweithgynrhyrchu

Derwyn John Roberts

Glaslyn Ices

Cwblhaodd Derwyn ei brentisiaeth mewn cynhyrchu bwyd yn Glaslyn Ices ym Meddgelert, ac yno ei waith yw cynhyrchu blasau hufen iâ bendigedig ac amrywiol yr mae’r busnes yn enwog amdanynt.

Yn awyddus i symud ymlaen yn ei brentisiaeth, rhoddodd Derwyn ei drwyn ar y maen a gweithio’n galed, gwnaeth gynnydd da yn ei rôl broffesiynol a nawr mae’n rhan bwysig o fusnes hufen iâ Glaslyn. Hefyd, mae wedi datblygu’n bersonol, ac yn araf mae wedi dod yn fwy hyderus a sicr ohono ei hun.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur i gwmni hufen iâ Glaslyn, maen nhw’n gwneud ac yn cynhyrchu’r holl hufen iâ sy’n cael eu gwerthu ganddynt. Derwyn sy’n gyfrifol am lawer o’r gwaith ac wrth i gyfyngiadau Covid lacio a nifer yr ymwelwyr gynyddu, daeth yn fwy a mwy prysur! Er bod ei ddiwrnodau gwaith yn rhai hir a phrysur ac yn golygu gweithio ar benwythnosau, mae Derwyn bob amser wedi canfod amser i weithio ar ei unedau gwybodaeth er mwyn cwblhau ei gymhwyster Lefel 2.

Mae gan ei gyflogwr, Bonnie Rowley, ffydd lwyr yn Derwyn. Mae’r busnes yn ymddiried ynddo i gynhyrchu hufen iâ o’r safon uchaf. Mae Derwyn wedi gwneud cynnydd ardderchog a nawr mae’n cymryd rhan weithredol wrth hyfforddi cyflogwyr newydd yn y broses gynhyrchu. Mae’n parhau i greu argraff ac mae ganddo ddyfodol disglair gyda’r cwmni.

manual override of alt text

Evangela Voma

International Safety Components (ISC) Mwy am Evangela Voma
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Peirianneg & Gweithgynrhyrchu

Evangela Voma

International Safety Components (ISC)

Yn fyfyriwr a chanddi dalent naturiol, dilynodd Eva lwybr cyflym at Lefel 4 mewn Diploma Cenedlaethol Uwch (HNC) yn rhan o’i Fframwaith prentisiaeth a hynny’n deyrnged i’w thalent anhygoel a’i gwaith caled.

Gan gwblhau’r HNC gyda Rhagoriaeth mae hi wedi mynd ymlaen i ddechrau Gradd Prentisiaeth Lefel 5. Mae ei chyfraniad yn cael ei werthfawrogi’n arw yn ei gweithle, International Safety Components, ac mae hi bob amser yn anelu at ragori yn ei hastudiaethau beth bynnag fo’r dasg. Mae hi’n hynod o weithgar ac mae hi bob amser yn ennill graddau Rhagoriaeth wrth gwblhau tasgau ac yn eu cwblhau mewn ffordd eithriadol o broffesiynol.

Yn ôl Daniel Yates, Rheolwr Peirianneg yn International Safety Components (ISC): “Mae Eva yn brentis talentog yma yn ISC, mae hi wedi mynd o nerth i nerth yn cynorthwyo a rheoli

prosiectau dylunio a phrosiectau peirianneg gwahanol gan ddefnyddio’i chreadigrwydd a’i gallu i ddylunio. Mae wedi cynorthwyo gydag adnewyddu dyluniad un o’n Dolenni cyswllt enwog a rheoli ei phrosiect datblygu ei hun yn gwella dyluniad ein system angori cludadwy. Mae Eva hefyd wedi arddangos ei gallu arbennig i ddylunio wrth gynorthwyo ein hadran farchnata i ailddatblygu ein pecynnau cynnyrch er mwyn gwella’r steil, yr ymarferoldeb a’r ailgylchu.’

Wedi hen arfer llwyddo, daeth Eva yn ail yn rowndiau terfynol Cystadlaethau Sgiliau Cymru yn y gystadleuaeth Dyluniad Peirianneg Mecanyddol drwy Gymorth Cyfrifiadur, a gynhaliwyd gan Golegau Gwent yng Nghaerdydd yn Ionawr 2019. Ar y pryd dywedodd: “Dwi wedi mwynhau dylunio erioed a dwi’n caru’r ffordd mae dylunio a pheirianneg yn asio a dyma yn ei hanfod ydy Cynllunio Drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD). Byddwn wrth fy modd yn bod yn beiriannydd dylunio, felly mae hyn yn sicr wedi bod yn hwb i fy ngyrfa a hefyd wedi rhoi hwb i fy hyder wrth i mi gyflawni fy nodau.”

Noddwyd Gan

Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, Rhanbarth Glannau Merswy a Gogledd Cymru

Wedi ei sefydlu yn 1847 mae gan yr ‘Institution of Mechanical Engineers’ rhai o’r peirianwyr enwocaf y byd o fewn eu cofnodion hanes. Mae yn un o’r sefydliadau sydd yn tyfu’n gyflymaf. Gyda Phencadlys yn Llundain mae gennym weithgareddau rhyngwladol a dros 115,00 o aelodau mewn 140 wahanol wlad yn gweithio yng nghalon diwydiannau pwysig a deinamig, gan gynnwys moduron, rheilffyrdd, awyrofod, meddygaeth, ynni ac adeiladu.

Rydym yn gweithio gydag ysgolion a phobl ifanc yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr. Gweithgareddau fel ffeiriau gyrfaoedd, digwyddiadau a chystadlaethau yn cael eu cynnal gyda llysgenhadon STEM ar gael i gynnig cyngor a rhannu profiad.

Gydag o gwmpas 3,000 o aelodau yn ein hardal mae Rhanbarth Glannau Merswy a Gogledd Cymru yn weithgar iawn gyda chefnogaeth i ddigwyddiadau STEM. Yn ogystal â noddi gwobrau rydym yn cynnig cymorth i ysgolion a cholegau i fyfyrwyr sydd yn ystyried gyrfa mewn peirianneg.

Gweler ein henillwyr blaenorol