Mae Stephanie yn ddysgwr angerddol, llawn cymhelliant sydd wedi rhoi cant y cant trwy gydol ei phrentisiaeth Lefel 3 gan ddod â hi gam yn nes at gyflawni ei nod o ennill gwobr yr aseswr yn y pen draw.
Er ei bod yn fam brysur i blentyn ifanc iawn ac yn rhedeg ei siop farbwr ei hun 'The Hair Shack', roedd Steff yn hollol ymrwymedig i’w phrentisiaeth. Mynychodd bob sesiwn, a llwyddodd i ennill ei holl sgiliau hanfodol.
Er ei bod yn brentis ei hun, darparodd Steph gyfleoedd i brentisiaid eraill a thros y blynyddoedd mae hi wedi eu harwain ac wedi rhoi sgiliau a gwybodaeth iddynt. Dyma lle sylweddolodd y gwerth mewn trosglwyddo sgiliau i eraill ac roedd hyn wedi’i hysgogi i weithio tuag at ennill cymhwyster aseswr.
Mae cyfraniad Steph yn cael ei werthfawrogi’n arw gan ei chyflogwyr yn y gweithle am ei bod hi’n weithiwr cefnogol a gweithgar yn ogystal â bod yn awyddus i ymgyfarwyddo â’r sgiliau a’r tueddiadau mwyaf diweddar yn y diwydiant.