English

manual override of alt text

GWOBRAU PRENTISIAETHAU 2023

PRENTIS Y FLWYDDYN

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

YN ÔL



DEWIS EICH ENWEBAI

manual override of alt text

Maida Bradbury

Y GROES GOCH BRYDEINIG Mwy am Maida Bradbury
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Maida Bradbury

Y GROES GOCH BRYDEINIG

Mae Maida yn gweithio yn rhan o’r tîm ‘un pwynt mynediad’ gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol fel gweithiwr cyswllt y trydydd sector, yn eu cefnogi gydag arweiniad a gwybodaeth am gefnogaeth y trydydd sector sydd ar gael i unigolion.

Yn ystod ei chyfnod ar y rhaglen, mae Maida wedi gweithio’n ddygn ac yn galed iawn ar ei diploma. Er ei bod ar y rhestr warchod oherwydd materion iechyd personol, dyfalbarhaodd gyda’i gwaith cwrs, gweithiodd o gartref i gefnogi ei chydweithwyr, a daeth yn rhan allweddol o’r tîm a hi bellach yw’r prif bwynt cyswllt i gael gwybodaeth am bobl sy’n cael eu cefnogi.

O ganlyniad i broblemau iechyd Maida, cafodd beth amser i ffwrdd o’r rhaglen, ond cyn gynted ag y daeth yn ôl parhaodd i weithio’n galed.

Mae hi’n cefnogi’r gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd gyda galwadau ac wedi cwblhau ymweliadau lles pan oedd hi’n gallu mynd yn ôl i’r swyddfa. Nid yn unig ei bod yn gefnogol iawn o’i chydweithwyr, mae hi hefyd wedi bod yn llais i hawliau pobl mewn cyfnod anodd tu hwnt iddyn nhw.

Yn ôl Hannah Lloyd, Aseswr Maida, “Bydd sawl un wedi serennu yn y 18 mis diwethaf, ond mae Maida wedi sicrhau ei bod wedi gweithio i gefnogi ei chydweithwyr a defnyddwyr gwasanaeth mewn cyfnod eithriadol o drwblus – mae hi’n haeddu’r enwebiad hwn”.

manual override of alt text

Claire Hitchin

A Star Support Services Mwy am Claire Hitchin
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Claire Hitchin

A Star Support Services

Claire ydy Rheolwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cefnogi A Star. Mae’r gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth ar gyfer unigolion gydag anableddau dysgu sy’n byw yn y gymuned.

Mae hi’n unigolyn llawn cymhelliant sy’n arwain ei thîm trwy esiampl. Mae’r newidiadau i’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r cymwysterau gofynnol er mwyn gweithio yn y diwydiant gofal yn golygu bod Claire a llawer o’i chydweithwyr yn gweithio tuag at gymwysterau Lefel 2 a 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae hyn yn unol â’r gofyn newydd i staff cefnogi gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae hi yno bob amser ar gyfer aelodau ei thîm. Mae Claire yn credu ym mhwysigrwydd y polisi drws agored, lle mae pawb yn cael eu hannog i alw i mewn i’r swyddfa am baned o de a sgwrs.

Mae Claire wedi wynebu sialensiau ar hyd y daith, gydag amser yn ffactor enfawr a sut i roi o’i hamser i gwblhau ei hyfforddiant wrth geisio ateb y galw am gyflenwi oriau cymorth, ynghyd â derbyn mwy o gwsmeriaid.

Ond nid dyna’r cyfan. Mae Claire hefyd yn gweithio yn banc staff y GIG. Yn ei barn hi, mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau ei bod wedi diweddaru ei Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD) ac fel ei bod yn gallu trosglwyddo ei sgiliau i aelodau o staff.

Mae’r unigolion wrth galon y gwasanaethau a ddarperir ac maen nhw’n cael eu hannog i gymryd rhan mewn gwaith elusennol cymunedol a gwaith am dâl, er mwyn datblygu sgiliau bywyd ac ymdeimlad o gynhwysiant, y cyfan yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 a’r gofyn bod pawb yn cael eu cydnabod am eu natur unigryw. Mae Claire wedi datblygu i fod yn rheolwr hyderus, sy’n ymdrechu i gefnogi pawb i lwyddo yn A Star.

manual override of alt text

Jeffrey Jones

Y GROES GOCH BRYDEINIG Mwy am Jeffrey Jones
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Jeffrey Jones

Y GROES GOCH BRYDEINIG

Mae Jeff yn gweithio fel llywiwr cymunedol gyda’r Groes Goch a chyngor Sir Ddinbych a chwblhaodd ei Ddiploma yn ystod y pandemig, gan gefnogi’r gymuned ar yr un pryd. Ar brydiau, cafodd ei adleoli er mwyn cefnogi’r banc bwyd a’r fferyllfeydd lleol gan sicrhau bod cleifion a’r rhai oedd angen cefnogaeth ychwanegol yn cael y cymorth.

Yn gynnar yn y pandemig, helpodd Jeff wrth ateb y ffôn gan gefnogi llawer o unigolion oedd yn bryderus ac yn poeni am sut i gael cymorth ar gyfer perthnasau yn yr ardal gan eu bod nhw’n byw ymhell i ffwrdd. Roedd hefyd wedi cynnal ymweliadau llesiant pan roedd hi’n ddiogel i wneud hynny, gan sicrhau fod pobl yn ddiogel a’u cyfeirio at gefnogaeth bwrpasol neu ymweliadau eraill os oedd angen gwneud hynny.

Yn ôl Hannah Lloyd, Aseswr Jeff, “Dwi wedi cael pleser yn gweld Jeff yn siarad ac yn rhyngweithio â phobl, mae o’n angerddol ac yn awyddus i wneud y gorau ar eu rhan nhw. Cwblhaodd Jeff ei ddiploma wrth weithio a chefnogi ei ferch gyda dysgu o gartref mewn cyfnod a oedd yn heriol i nifer ohonon ni. Aeth Jeff y tu hwnt i unrhyw ofyn wrth fynd i’r afael â llawer o’i waith yn ystod y 18 mis diwethaf ac mae’n haeddu cydnabyddiaeth am hyn.”

Noddwyd Gan

Achieve More Training

Yn Achieve more Training rydym yn arbenigo mewn darparu hyfforddiant a chymwysterau ar gyfer y Sectorau Addysg, Hamdden/Ffitrwydd a Chwaraeon ac mae gan ein staff dros 30 mlynedd o brofiad ac yn awyddus iawn i rannu eu profiad a'u harbenigedd. Rydym yn cynnig dull cefnogol ac unigol, i sicrhau bod ein dysgwyr yn ennill y sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth benodol i'w helpu i adeiladu gyrfa lwyddiannus.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa mewn rolau gwaith megis hyfforddwr chwaraeon Ysgol, hyfforddwr Ffitrwydd, hyfforddwr Personol, cynorthwyydd Addysgu, hyfforddiant rheoli neu arbenigwr Addysg Gorfforol yna cysylltwch â ni i weld a fedrwn eich helpu.

Rydym yn gweithio'n agos yn gyson gydag ein cyflogwyr gan ddiweddaru ein hystod o hyfforddiant i sicrhau bod ein dysgwyr yn ennill y cymwysterau diweddaraf a mwyaf perthnasol i ddiwallu anghenion ein cyflogwyr, yr economi leol a rhoi i'n dysgwyr y cyfleoedd gorau yn eu gyrfâu.

Croesawn gyflogwyr i gysylltu gyda ni i gymryd y cynnig o gyngor am ddim ar recriwtio, cynllunio olyniaeth, datblygu gweithlu a DPP i'ch helpu i gael eich arfogi orau posib i gyfarfod eich anghenion datblygu gweithlu.

Gweler ein henillwyr blaenorol