Ar ddechrau'r brentisiaeth roedd Liam yn ddyn ifanc tawel a swil. Er hyn, wrth i ni fynd ymlaen â'r cymhwyster dechreuodd setlo ar y cwrs ac roedd yn unigolyn addawol iawn a oedd yn meddwl am syniadau ar gyfer prydau bwyd a fyddai'n cyd-fynd â meini prawf y cwrs. Roedd yn rhannu lluniau o brydau bwyd yr oedd wedi eu creu yn y gwaith ac yn siarad am y ffordd roedd yn arbrofi gyda chyfuniadau gwahanol o ran blasau.
Mae Liam wedi ffynnu fel prentis. Y cyfan oedd ei angen arno oedd rhywbeth i ganolbwyntio arno a rhywun i'w helpu i greu'r sbarc sydd ei angen i fod yn gogydd. Unwaith y cafodd y sbarc hwnnw, newidiodd yn llwyr. Mae wedi newid o fod yn hogyn tawel a swil i fod yn ddyn ifanc hyderus, parchus sydd wedi ymrwymo'n llwyr. Erbyn hyn, mae'n llawn angerdd am yr hyn mae'n ei wneud.
Yn ystod y cyfnod clo, byddai wedi bod yn hawdd penderfynu eistedd a gwneud dim. Ond, aeth Liam ati i ddefnyddio'r amser hwn i adolygu ar gyfer ei arholiadau. Talodd hyn ar ei ganfed a llwydodd i basio pob un o'r arholiadau y tro cyntaf gyda marciau da.
Dywedodd Tony Fitzmaurice, yr asesydd:
“Pan wnes i gyfarfod â Liam am y tro cyntaf, roedd o'n berson tawel a swil ond fe dyfodd a datblygodd ei hyder, yn enwedig o ran creu perthnasau proffesiynol. Ym mhob asesiad, ro'n i'n gallu gweld ei fod yn fwy hyderus wrth weithio ag eraill yn y gegin. Wrth i ni fynd ymlaen â'r cymhwyster, tyfodd ei ddiddordeb a dechreuodd awgrymu prydau bwyd gwahanol. Mae'r newid dw i wedi'i weld yn Liam yn wych. Dw i'n falch iawn o'r hyn mae o wedi'i gyflawni."