Yn aelod o'r tîm yn Grwp Llandrillo-Menai mae Jane bob amser yn barod i ddysgu sgiliau newydd a herio syniadau, mae'n cymhwyso'r hyn mae wedi ei ddysgu ar ei phrentisiaeth i'w rôl fel Cydlynydd Consortiwm Dysgu yn y Gweithle. Bu Jane yn gyfrwng i ddatblygu'r fenter Her Gymunedol seiliedig ar y Gweithle sydd yn annog prentisiaid i gymryd rhan i gefnogi eu cymunedau lleol drwy gasglu ar gyfer Banciau Bwyd lleol, rhoddion llyfr a Her Wyau Pasg.
Fel gyda phob prentis, bu'n rhaid i Jane gydbwyso gofynion gweithio'n llawn amser ac astudio ynghyd ag ymrwymiadau personol. Roedd y cyfnod clo cyntaf yn gyfnod arbennig o anodd ar gyfer Jane, er gwaethaf anawsterau personol sylweddol llwyddodd Jane i gwblhau ei gwaith ysgrifenedig ar gyfer ei phrentisiaeth yn ogystal â chwblhau tri Sgil Allweddol.
Mae gan Jane bob amser agwedd gadarnhaol at ei gwaith a dangosodd ei hymrwymiad drwy gynhyrchu gwaith theori o safon uchel ac asesiadau ymarferol.