Ar gyfer rhywun mor ifanc, roedd gan Robin yn barod wybodaeth mewn dyfnder o waith fferm diolch i'r gwaith fu'n gwneud yn helpu rhedeg y fferm deuluol. Gan ddewis i gwblhau'r brentisiaeth ar ei fferm ei hun llwyddodd Robin a'i aseswr i ddewis yr unedau o astudiaeth a oedd yn gweddu orau i'r fferm deuluol fel y gallai Robin gael mantais lawn o'r rhaglen brentisiaeth.
Wrth i'r brentisiaeth fynd yn ei blaen, llwyddodd Robin gymryd ymlaen mwy o gyfrifoldeb am ochr weinyddol y busnes megis cofnodi genedigaethau a chofrestru symudiadau. Mae hyd yn oed wedi dechrau magu ei loeon cig eidion wedi eu traws fridio ei hun gan gymryd cyfrifoldeb personol am agweddau o'r fenter.
Mae Robin hefyd yn gwneud peth gwaith llanw ar fferm laeth leol, roedd ganddo record presenoldeb da ac roedd bob amser yn dangos i fyny ar gyfer sesiynau ar-lein yn ystod y pandemig. Cyfeiriodd ei waith at esiamplau o'i brofiad er mwyn dangos ei ddealltwriaeth. Yn ystod yr arsylwadau ymarferol, profodd Robin ei hun i fod yn fedrus tu hwnt.