English

manual override of alt text

GWOBRAU PRENTISIAETHAU 2023

PRENTIS Y FLWYDDYN

Gwasanaethau Busnes & Rheolaeth

YN ÔL



2023 Nominees

manual override of alt text

Angharad Barber

Conwy Communities For Work Mwy am Angharad Barber
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Gwasanaethau Busnes & Rheolaeth

Angharad Barber

Conwy Communities For Work

Yn ystod prentisiaeth Annie cafodd ei chyflogi gan Gymunedau dros Waith yng Nghonwy, sefydliad sy'n cefnogi pobl leol i gael gwaith ac yn rhoi cymorth gyda thai, iechyd meddwl a goresgyn rhwystrau cyflogaeth.

Enwebwyd Annie am ei hymroddiad a'i gwaith caled yn ystod ei phrentisiaeth a'r gefnogaeth ryfeddol a gynigiodd i'w chydweithwyr a defnyddwyr y gwasanaeth, yn enwedig yn ystod y pandemig.

Rôl Annie oedd croesawu cleientiaid newydd i'r gwasanaeth a helpu dynodi'r gefnogaeth roeddynt ei hangen a threfnu hynny.

Roedd y ganolfan ar gau yn ystod y cyfnod clo ac roedd rhaid i staff weithio o adref. Roedd y gefnogaeth roedd hi'n ei darparu yn amhrisiadwy i'w thîm. Cynigiodd Annie sesiynau cymorth i aelodau staff newydd i'w cynorthwyo i ddysgu am y swydd a'r systemau'n haws ac roedd bob amser wrth law os oedd angen cymorth ac arweiniad.

Roedd gwaith Annie'n allweddol wrth newid i'r ffyrdd newydd o weithio. Er gwaethaf ymgymryd â gwaith ychwanegol gwnaeth Annie barhau i ganolbwyntio ar ei diploma - golygodd ei hymroddiad y llwyddodd i gwblhau ei diploma bedwar mis yn gynnar!

Gwnaeth y diploma helpu Annie i fagu hyder a datblygu ei gwybodaeth am y sector cymorth a chefnogaeth. Mae hi bellach wedi symud i swydd newydd gyda'r cyngor fel Swyddog Cymorth Gwasanaethau Tai.

manual override of alt text

Humera Qadir

bwrdd iechyd prifysgol betsi cadwaladr Mwy am Humera Qadir
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Gwasanaethau Busnes & Rheolaeth

Humera Qadir

bwrdd iechyd prifysgol betsi cadwaladr

Er gwaethaf gweithio'n llawn amser, a chydbwyso astudio a bod yn fam i ddau o blant, llwyddodd Humera i gwblhau ei Phrentisiaeth Lefel 3 mewn Rheoli yn ystod y pandemig.

O ganlyniad i'w gwaith caled cafodd Humera ddyrchafiad yn Rheolwr Canolfan Gyswllt, swydd sy'n cynnwys mwy o gyfrifoldebau rheoli.

Trwy gyfrwng y brentisiaeth datblygodd ei sgiliau a chynyddu ei hunan hyder, wnaeth ei galluogi i gyflawni ei nod o fod yn rheolwr proffesiynol.

Mae swydd gyfredol Humera yn cynnwys datblygu a gweithredu rhaglen newid sy'n berthnasol i Ganolfan Gyswllt Brechu Gogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys cynllunio, datblygu a gweithredu prosesau a gweithdrefnau i sefydlu'r Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid Corfforaethol gyntaf ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae Humera'n gyfrifol am bob agwedd o reoli pobl yn y ganolfan gyswllt ac mae'n anogwr effeithiol a phrofiadol sy'n arwain trwy esiampl bob amser ac yn goresgyn disgwyliadau'r cwsmeriaid yn gyson.

Mae Humera yn parhau i ddatblygu ei gyrfa, gan weithio tuag at ei chymhwyster Rheoli Lefel 4 ar hyn o bryd.

manual override of alt text

Dewi Aron Thomas

Babcock International Group Mwy am Dewi Aron Thomas
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Gwasanaethau Busnes & Rheolaeth

Dewi Aron Thomas

Babcock International Group

Mae Dewi wedi'i gyflogi gan Babcock International Group yn RAF y Fali. Cofrestrodd fel prentis yn 2016 a gwneud cynnydd cyflym i fod yn dechnegydd cymwysedig yn trwsio a chynnal a chadw awyrennau Hawk T2, sy'n cael eu defnyddio i hyfforddi holl beilotiaid awyrennau cyflym y dyfodol.

Yn uchelgeisiol bob amser, mae Dewi'n cyflawni ei ddyletswyddau i'r lefel uchaf posibl ac mae'n llawn cymhelliant i wneud rhagor o gynnydd a chymryd mwy o gyfrifoldeb.

Mae'n amlwg ymhlith ei gyfoedion, yn aml yn cefnogi ei gydweithwyr ac ar hyn o bryd mae'n mentora prentis newydd, gan sicrhau ei fod yn deall gwerthoedd y sefydliad a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â rôl technegydd awyrennau.

Er mwyn datblygu ei hun cofrestrodd Dewi am brentisiaeth Diploma mewn Arwain Tîm Lefel 2, a gwblhaodd i safon uchel. Dangosodd hunan gymhelliant, nid oedd angen fawr ddim goruchwylio arno ac roedd yn cael marciau uchel iawn yn gyson. Cyflwynodd enghreifftiau rhagorol o dystiolaeth o'r gweithle i gefnogi ei ddatganiadau hefyd.

Ers hynny mae wedi mynd ymlaen i gwblhau cwrs Diploma mewn Rheoli Lefel 3 a nawr mae'n benderfynol o wneud rhagor o hyfforddiant galwedigaethol ar Lefel 4.

Adlewyrchir aeddfedrwydd Dewi yng nghyfrifoldebau ei swydd a'r modd diwyd yr aeth ati i ennill ei gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.

Noddwyd Gan

Gwesty'r Royal Oak, Betws-y-Coed

Fel partneriaid hir-dymor i Grwp Llandrillo Menai rydym wedi gweld llawer o aelodau'n tîm yn dilyn y llwybr prentisiaeth ac yn disgleirio yn eu rolau a'u gyrfau.

Mae ein gwerthoedd yn cwmpasu ethos lleol, tymhorol, a ffres ar draws ein holl allfeydd bwyd. Mae sgiliau a gwybodaeth pobl ifanc leol a all ddathlu'r ymdeimlad hwnnw o le, o'r fan y gweithiant a'r lle maent yn byw, yn ffurfio cysylltiadau hyd yn oed yn gryfach gyda'r diwydiant twristiaeth ar draws y rhanbarth.

Yn fusnes teuluol annibynnol, mae'r Royal Oak a'i ganolfannau cysylltiedig yn gwybod am fanteision datblygu sgiliau ymhlith ein pobl a'r fantais mae hynny yn ei ddwyn i'r diwydiant lletygarwch ar draws Gogledd Cymru gyfan. Mae gennym gyfrifoldeb i gefnogi a chynnig y cyfleoedd hynny i'r bobl sy'n gweithio drosom ac mae'r Wobr hon yn sicrhau ein bod yn dathlu'r llwyddiant hwnnw gyda'r holl brentisiaid sydd yn ymrwymedig i ddatblygiad personol.


Gweler ein henillwyr blaenorol