Yn ystod y pandemig cafodd Nikka, ynghyd â nifer o bobl eraill ei rhoi ar ffyrlo gan ei chyn-gyflogwr. Yn anffodus, pan ddychwelodd i'r gweithle, collodd Nikka ei swydd.
Yn ffodus iawn i Nikka, daeth o hyd i swydd gyda ISC Ltd, a thrwy hynny, cyfle i gwblhau ei phrentisiaeth Diploma Lefel 3 mewn rheoli Warysau a Storfeydd. Mae wedi dangos cryfder a gwir benderfyniad i lwyddo, ac wedi parhau i edrych ar ôl ei phlant a'i theulu yn ystod cyfnod anodd iawn.
Mae Nikka yn cael ei gweld yn aelod gwerthfawr o staff yn ei rôl newydd a nifer wedi gwneud sylwadau cadarnhaol am ei hagwedd broffesiynol a'i hymroddiad i'r gwaith.
Dywedodd cyflogwr Nikka ei bod hi'n gaffaeliad i'r cwmni oherwydd ei bod yn gallu cyflawni nifer o rolau gwahanol i safon foddhaol iawn.