English

manual override of alt text

GWOBRAU PRENTISIAETHAU 2023

PRENTIS Y FLWYDDYN

Gwobr Coleg Cymraeg Cenedlaethol

YN ÔL

Amdan y wobr

I fod yn gymwys ar gyfer Prentis y Flwyddyn - Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae'n rhaid i brentisiaid fod wedi cwblhau rhan o'u Prentisiaeth yn Gymraeg, gan adlewyrchu'r reality fod y gallu i gyfathrebu yn effeithiol mewn gweithle Cymraeg yn hanfodol i fywyd busnes yn Ngogledd Cymru.




DEWIS EICH ENWEBAI

manual override of alt text

Delyth Jones

Cyngor Gwynedd Mwy am Delyth Jones
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Gwobr Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Delyth Jones

Cyngor Gwynedd

Yn ystod ei phrentisiaeth, gweithiodd Delyth gyda Chyngor Gwynedd ar gytundeb dros dro ac mae wedi cael ei disgrifio fel person sydd bob amser yn gydwybodol a gweithgar. Dechreuodd Delyth gyda phrentisiaeth Diploma Lefel 3 ac ar ôl ei gwblhau, aeth yn ei blaen at Ddiploma Lefel 4. Cyflwynodd ei haseiniadau’n ddwyieithog a’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cyflwyno yn y Gymraeg.

Yn ystod y cyfnod clo ac yn arbennig ar ddechrau’r pandemig, roedd Delyth yn serennu wrth ymateb i’r sialensiau newydd. Roedd hi’n un o griw bach o staff a oedd yn mynd mewn i swyddfa’r cyngor. Cadwodd bethau i fynd wrth drosglwyddo galwadau i’w chydweithwyr yn eu cartrefi, wrth brosesu taliadau terfynol i gyflenwyr, ac yn bwysig iawn wrth ganfod Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ar gyfer gweithwyr allweddol y Cyngor a helpu i gydlynu danfoniadau.

Trwy’r holl broses byddai Delyth bob amser yn mynychu ei chyfarfodydd prentisiaeth/aseswr rhithwir gyda gwên ar ei hwyneb ac yn llawn brwdfrydedd.

Pan oedd ar fin cwblhau ei chwrs yn Chwefror 2021 cydnabuwyd ei holl waith caled a’i hymdrech yn ei rôl, pan gafodd gynnig cytundeb parhaol gan ei chyflogwr. Dywedodd ei chyflogwr bod Delyth yn ymgeisydd hynod deilwng.

Yn ôl neges gan gyflogwr Delyth:

“Haeddiannol iawn”

Mae Delyth wedi bod yn aelod blaenllaw o’r Tîm; yn ystod y cyfnod clo ; yr unig un ohonom oedd yn mynd i’r swyddfa; ac wedi llwyddo i wneud ei gwaith ei hun yn ogystal â rhoi cymorth i sawl unigolyn o fewn sawl gwasanaeth amrywiol yn y Cyngor. Nid yw wedi cwyno am y gwaith ychwanegol, er fy mod yn sylweddoli fod hyn wedi peri straen iddi oherwydd y sefyllfa (covid).

manual override of alt text

Sandra Jones

Bodacc Ltd Mwy am Sandra Jones
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Gwobr Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Sandra Jones

Bodacc Ltd

Hyfforddodd Sandra ar gyfer ei Phrentisiaeth mewn Busnes a Gweinyddiaeth gyda Bodacc Ltd. Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl ac mae wedi cwblhau llawer o’i phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Pan nad yw’n astudio mae Sandra wrth ei bodd yn helpu’r gymuned ac mae’n aelod o grŵp lleol o’r enw Tremadog 200, grŵp sy’n trefnu digwyddiadau er mwyn codi arian ar gyfer byd addysg a’r pentref lleol. Cyn Covid roedd hi’n trefnu ac yn cydlynu sesiynau ciniawa cymdeithasol ar gyfer yr henoed a’r rhai a oedd wedi’u hynysu yn y gymuned.

Pan ddaeth y pandemig, dechreuodd Sandra dreulio’i hamser yn gwneud masgiau ac yn eu rhannu â gofalwyr lleol yn ogystal â nôl presgripsiynau a bwyd ar ran aelodau’r grŵp ciniawa cymdeithasol gan y gwyddai y byddai angen cefnogaeth ychwanegol arnyn nhw.

Mae hi hefyd yn gwirfoddoli gyda CEFN (yn cefnogi ffoaduriaid). Mae hyn yn golygu casglu, rhoi trefn ar ddillad ac eitemau eraill a’u pacio yn barod i’w hanfon at y rhai mewn angen, ledled y DU a Lesvos.

Mae Sandra wrth ei bodd yn helpu eraill. Mae hi eisiau dysgu ei phlant nad yw cynnig help llaw yn costio dime ac wrth wneud y newid lleiaf i fywyd person byddwn yn gwneud ein gwaith yn iawn!

manual override of alt text

Lowri Pointer

Meithrinfa Ffalabalam Mwy am Lowri Pointer
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Gwobr Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Lowri Pointer

Meithrinfa Ffalabalam

Mae Lowri yn ddirprwy reolwr mewn meithrinfa ac wedi cwblhau Diploma mewn Arweinyddiaeth Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (Arfer Uwch) Lefel 5 yn Rhagfyr 2020.

Wnaeth Lowri gwblhau ei lefel 5 drwy drafodaeth broffesiynol gan fod hyn y ffordd roedd mwy cyfforddus yn gweithio.

Mae gan Lowri nifer fawr o flynyddoedd o brofiad yn arwain tîm ac fel arwenydd o fewn ei man gwaith - roedd hyn yn brofiad a chefndir da ar gyfer cyflawni ei phrentisiath. Ond er hyn, doedd hi ddim mor gyfforddus gyda’r dulliau traddodiadol o ddysgu ac o ganlyniad, cwblhaodd Lowri ei chymhwyster i gyd drwy drafodaeth broffesiynol gan mai fel yna oedd hi’n dysgu a chyfleu ei gwybodaeth orau. Roedd trafodaethau yma bron i gyd drwy'r Gymraeg, yn ogystal roedd hi’n cwblhau ei gwaith ymchwil ar gyfer rhai o'r unedau yn Gymraeg ag yn trafod sut mae ei gwaith o ddydd i ddydd yn berthnasol i'r gwaith ymchwil a wnaeth fel rhan o’i phrentisiaeth..

Drwy gydol ei phrentisiath, roedd profiad amrywiol Lowri o reoli ac arwain, gan gynnwys gwaith yr oedd wedi ei wneud gyda phlant ag anghenion ychwanegol, yn ei galluogi i adlweyrchu a gweithredu ar sail ei phrofiad yn ei rôl bresennol yn y feithrinfa. Yn ogystal â chwblhau ei phrentisiaeth ei hun, mae Lowri hefyd yn weithgar iawn yn cefnogi ei staff sydd yn hefyd cwblhau eu prentisiaeth eu hunain.

Noddwyd Gan

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Mae’r Coleg yn cyflawni hyn drwy gydweithio mewn partneriaeth gyda phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i ddatblygu addysg Gymraeg a dwyieithog.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y nod uchelgeisiol o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Bydd rôl allweddol i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol er mwyn sicrhau bod y targed hwn yn cael ei gyrraedd.

Yn ddiweddar, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ymestyn ei gyfrifoldebau i’r sector ôl-16 yn greiddiol i hynny mae’r Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg. Mae cylch ein gwaith yn cynnwys cefnogi Colegau i benodi staff dwyieithog i addysg ym meysydd blaenoriaeth Iechyd a Gofal, Gofal Plant a Gwasanaethau Cyhoeddus. Fel rhan o’r gwaith rydym yn comisiynu a datblygu adnoddau, darparu grantiau hybu a hyrwyddo er mwyn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol yn ogystal â chefnogi cynllun llysgenhadon cenedlaethol er mwyn annog a dylanwadu ar ddysgwyr i barhau i astudio elfennau o’u cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gweler ein henillwyr blaenorol