Manteisiodd ben ar y Rhaglen Hyfforddi ar ôl gadael yr ysgol heb lwybr clir na chyfeiriad i'w yrfa. Daeth yn amlwg o'r trafodaethau dechreuol â Ben ei fod yn angerddol ynghylch chwaraeon ac addysg a'i fod eisoes yn meddu ar sgiliau'n gweddu i'r meysydd hyn. Roedd yn disgleirio ymhlith ei gyfoedion ac yn ffynnu ym maes darparu chwaraeon.
Gwnaeth hyn roi dealltwriaeth glir i Ben ynghylch y cyfeiriad roedd am ei ddilyn fel gyrfa. Gwnaeth weddnewid o rywun a oedd yn gwybod beth roedd yn ei fwynhau ond heb gyfeiriad ac eglurder, i rywun â chynllun at y dyfodol.
Dywedodd Matthew Jones o Achieve More Training: "Mi wnaethom ni gydweithio â Ben i gefnogi datblygu ei yrfa a nodi'r camau mwyaf addas a rhesymol er mwyn cyflawni hynny. Mae Ben yn ddysgwr ymarferol iawn sy'n ffynnu mewn amgylchedd lle medr ddysgu drwy wneud ac felly prentisiaeth oedd y cam nesaf amlwg.
"Dechreuodd Ben weithio fel hyfforddwr pêl-droed ar ran sefydliad lleol i ennill profiad a defnyddio'r wybodaeth a ddysgodd. Llwyddodd Ben i gael swydd fel Prentis Chwaraeon mewn ysgol gynradd leol, Ysgol Esgob Morgan, a bydd yn astudio am y cymhwyster Lefel 3 Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol.
"Mae Ben yn rhagori yn ei brentisiaeth ac wedi cymryd rôl arweinyddol yn yr ysgol o ran y ddarpariaeth chwaraeon ac addysg gorfforol, gan ddangos ei sgiliau rhagorol yn cynllunio, cyfathrebu ac ymwneud â phobl.