“Mae Eleri yn ymgorffori popeth y byddech yn dymuno ei gael gan brentis – mae’n ymroddedig, yn frwdfrydig, yn gweithio’n galed ac yn aelod poblogaidd a gwerthfawr o’r tîm”, meddai ei chyflogwr Archwilio Cymru.
Wedi iddi ennill ei Phrentisiaeth AAT Lefel 3 gyda rhagoriaeth, mae’n gweithio erbyn hyn tuag at Ddiploma Lefel 4 mewn Cyfrifeg Proffesiynol.
Roedd yn aelod o dîm grŵp enillodd fedal aur yn y Gystadleuaeth Sgiliau gan fynd ymlaen i gystadlu yn rownd derfynol WorldSkills y Deyrnas Unedig ym mis Tachwedd.
Mae Eleri hefyd yn cefnogi ei chyd-brentisiaid ar Gynllun Cyfaill yn y gwaith ac hefyd wedi gwirfoddoli i fod yn farsial tân ar gyfer clwstwr Gogledd-Orllewin Archwilio Cymru. Yn ei hamser sbâr, mae’n drysorydd i’r elusen Y Gorlan ac yn athrawes Ysgol Sul.
Mae’n siaradwr Cymraeg, yn barod am unrhyw her, yn chwaraewr tîm go iawn ac yn awyddus i ddatblygu ei gyrfa.