
Rydym yn gweithio gyda chi ac aelodau eich gweithlu atgyweirio a chynnal a chadw i ddarparu datrysiad wedi'i deilwra'n benodol i chi gennym ni, eich partner cadwyn gyflenwi a datrysiadau caffael.
Darparwn wasanaeth cadwyn gyflenwi a chaffael heb ei ail ar draws cwmni Travis Perkins PLC Group, y dosbarthwr nwyddau adeiladu mwyaf.
Rydym ni'n defnyddio dros 700 o ganghennau ledled y wlad i gael y deunyddiau gorau gan gyflenwyr rydym ni'n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt gan wybod eu bod yn gyflenwyr moesegol a chynaliadwy.
Rydym yn arwain ein diwydiant tuag at sefyllfa sero net ac yn cynorthwyo cymunedau i ffynnu. Gweithiwn yn agos â'n cwsmeriaid i'w helpu i lywio eu cyfeiriad mewn byd sy'n newid yn barhaus.
Wrth graidd pob partneriaeth mae ein nod cyffredin o ddarparu gwell gwasanaeth i'n cwsmeriaid ac, yn ei dro, i'w tenantiaid. Rydym ni'n cyflawni hyn drwy weithredu datrysiadau sy'n cynyddu cynhyrchedd eich gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw, wrth leihau'r costau cysylltiedig.