Gweithiodd Jennifer o dan bwysau eithafol ar y rheng flaen yn ystod y pandemig ac mae wedi ei dyrchafu o fod yn dderbynnydd i fod yn gydlynydd gwasanaeth clinigol.
Dechreuodd ar ei Phrentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes tra’n gweithio fel derbynnydd yn Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Gwynedd, gan gael secondiad i ysbyty maes Enfys i sefydlu derbynfa ar ddechrau’r pandemig, cyn cael ei throsglwyddo i’r rhaglen frechu.
Gan ddefnyddio’r sgiliau a’r hyder y mae hi wedi eu meithrin tra’n astudio ar gyfer ei phrentisiaeth, mae wedi ennill tri dyrchafiad ers hynny. Cyfrannodd tuag at gyflawni targedau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru i ddiogelu’r boblogaeth leol.
Dengys Jennifer frwdfrydedd cyson i ddysgu ac i ddatblygu ei sgiliau, ac erbyn hyn mae’n gyfrifol am restr ddyletswyddau tîm aml-ddisgyblaethol o dros 150 o staff. Disgrifiai ei chydweithwyr hi fel gweithiwr tawelgar, amyneddgar a phroffesiynol.