Mae Malgorzata yn weithiwr cydwybodol, mae’n gweithio’n galed yn ei gweithle ac yn anelu i wneud ei gorau bob amser. Mae Gosia yn wreiddiol o Wlad Pwyl a tra’n gweithio yn y Preschool gallai weithio gyda phlant o Wlad Pwyl a’u helpu i setlo mewn i’r lleoliad. Tra’n cychwyn ar y cymhwyster, roedd yn rhaid i Malgorzata gyfarfod gyda’r asesydd yn wythnosol gan fod angen i’r cyfarfodydd fod yn rhai wyneb yn wyneb gan fod gan Malgorzata nam ar ei chlyw, ac fe brofodd sesiynau ar-lein i fod yn anodd felly gwnaethom addasu rhai o’n dulliau. Ni fethodd Malgorzata yr un apwyntiad, gweithiodd yn galed iawn drwy gydol yr amser, gan gwblhau’r gwaith a osodwyd a defnyddio’r wybodaeth yr oedd newydd ei ddysgu i’w helpu i wella ei harferion yn y Preschool ar bob achlysur. Cynlluniodd Gosia weithgareddau hyfryd ar gyfer y plant ac mae’n rhoi gymaint o ymdrech i mewn i bopeth mae’n ei wneud.
Canmolodd Sandie Cox Malgorzata, sy’n fam i dri, am ei gwaith caled wrth gyflawni ei Phrentisiaeth Sylfaen, gan oroesi rhwystrau ieithyddol a chlyw yn y broses.
“Mae hi wir wedi rhoi ei chalon a’i henaid i mewn i’r peth,” meddai. “Mae’n mynychu’r holl gyrsiau yn y gweithle ac yn hanfodol i’r lleoliad erbyn hyn gan ei bod yn aelod cymwys o’r tîm.”
Mae Malgorzata wedi dod â’i diwylliant i’r lleoliad hefyd, gan ddathlu gwahanol draddodiadau Pwylaidd, sydd wedi ein helpu i dathlu amrywiaeth gyda’r plant.”