Mae Millie wedi sicrhau swydd ei breuddwydion fel cymhorthydd meithrin, wedi iddi ddatblygu ei hyder a’i sgiliau ar gynllun cyflogadwyedd.
Trwy weithio gyda thiwtoriaid y coleg, mae wedi datblygu ei hymddiriedaeth a’i hunan-hyder i oresgyn rhwystrau ac wedi cwblhau Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Sgiliau Gwaith, oedd yn cynnwys sesiynau ar ysgrifennu CV, technegau cyfweliad a sgiliau cyfathrebu.
Wedi rhai cyfweliadau aflwyddiannus, dysgodd Millie bwysigrwydd gwytnwch a pheidio rhoi fyny. Ceisiodd am swydd arall, mynychodd y cyfweliad ar ei phen ei hun, gan sicrhau swydd ei breuddwydion mewn meithrinfa.