English

manual override of alt text

GWOBRAU PRENTISIAETHAU 2023

PRENTIS Y FLWYDDYN

Lletygarwch

YN ÔL



DEWIS EICH ENWEBAI

manual override of alt text

Gareth Roberts

Gwesty Trearddur Bay Hotel Mwy am Gareth Roberts
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Lletygarwch

Gareth Roberts

Gwesty Trearddur Bay Hotel

Dyrchafwyd Gareth i fod yn reolwr bar cynorthwyol yn yr Inn at the Bay ers iddo gwblhau ei Brentisiaeth Sylfaen mewn Lletygarwch (Lefel 2).

Wedi iddo weithio yn y Trearddur Bay Hotel am bedair blynedd, penderfynodd fynd am y cymhwyster er mwyn datblygu ei hun o fewn y cwmni ac i ennill ei Drwydded Personol.

Trwy waith caled ac ymroddiad, daeth yn un o’r dysgwyr cyntaf i gwblhau’r cymhwyster newydd ar amser, er gwaethaf heriau’r pandemig, ac nawr mae am symud ymlaen i’r prentisiaeth Lefel 3.

Mae Gareth wedi derbyn cyfrifoldebau ychwanegol, ac mae’n parhau i ddysgu a hyfforddi aelodau newydd o’r staff o fewn ei adran. Mae hefyd wedi addasu’n dda i’r beichiau o fod yn dad newydd ac arwain tîm.

manual override of alt text

Jack William Quinney

Sage Kitchen Mwy am Jack William Quinney
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Lletygarwch

Jack William Quinney

Sage Kitchen

Mae’r cogydd Jack yn credu ei fod wedi dod o hyd i’w wir alwedigaeth drwy ddysgu tra’n gweithio. Cwblhaodd ei fframwaith prentisiaeth cyfan o flaen amser, yn fuan ar ôl penderfynu mai nid prifysgol oedd y lle iddo fo.

Wedi iddo ddilyn Prentisiaeth Sylfaen mewn Coginio Proffesiynol, wedi’i ddarparu’n ddwyieithog, mae nawr wedi dechrau Prentisiaeth Lefel 3.

Yn siaradwr Cymraeg, penodwyd ef yn Lysgennad Prentisiaeth i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn 2022 ac mae o wedi ymddangos mewn arddangosiadau coginio fideo i hyrwyddo’r defnydd o’r iaith yn y gweithle.

Dechreuodd Jack ar ei daith brentisiaeth yn Sage Kitchen ym Mhorthaethwy, ond mae’n gweithio ym mwyty Sheeps and Leeks yng Nghaernarfon erbyn hyn.

manual override of alt text

Victoria Mylchreest-Jones

Myddleton College Mwy am Victoria Mylchreest-Jones
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Lletygarwch

Victoria Mylchreest-Jones

Myddleton College

Mae Victoria wedi mynd o fod yn fam llawn-amser i fod yn reolwr arlwyo yng Ngholeg Myddleton yn Sir Ddinbych, gyda chymorth cwrs Prentisiaeth Sylfaen mewn Cynhyrchu Bwyd a Choginio (Lefel 2) a llawer o waith caled.

Dechreuodd weithio yn y coleg ym Mai 2021 fel cymhorthydd cegin, cofrestrodd am ei phrentisiaeth yn Chwefror 2022 a’i gwblhau chwe mis yn ddiweddarach tra’n gweithio llawn amser a gwneud amser i’w theulu. Gan ei bod yn ddyslecsig, addasodd ei ffordd o weithio er mwyn cyflawni ei chymhwyster.

Erbyn hyn, mae Victoria’n cyfuno ei Phrentisiaeth mewn Lletygarwch, Goruchwylio ac Arwain (Lefel 3) gyda rhedeg cegin brysur sy’n arlwyo ar gyfer mwy na 200 o fyfyrwyr a digwyddiadau arbennig. Mae ei chyflogwr yn ei disgrifio fel “ysbrydoliaeth”.

Noddwyd Gan

Snowdonia Hospitality & Leisure Ltd

Rydym ni'n fusnes lletygarwch teuluol sydd wedi ennill llu o wobrau. Mae gennym ni dri gwesty ym Metws y Coed sef y Waterloo Hotel, Royal Oak Hotel a'r Stables Lodge yn ogystal â'r Stablau unigryw, ein dehongliad ni o dafarn fodern yng nghanol y pentref.
Mae'n hanes yn mynd yn ôl fwy na hanner can mlynedd, sydd wedi ein hen ymsefydlu yn y sector lletygarwch yn ardal Eryri. Trwy gyfrwng arloesi, buddsoddi ac ymrwymiad i'r gymuned, mae ein pobl ni wedi bod yn eithriadol yn sicrhau ein bod yn croesawu ein gwesteion ac aelodau'r tîm, sydd oddeutu 150, i amgylchedd sy'n rhoi croeso a lletygarwch go iawn yn flaenaf.
Rydym ni'n falch o'n gwobrau diwydiant niferus, ond yn bennaf oll, rydym ni'n falch o'n pobl ni sydd wedi sicrhau'r llwyddiant rydym ni'n ei fwynhau heddiw. Rydym ni'n chwilio'n barhaus am bobl ddawnus ac angerddol sydd am weithio mewn diwydiant cyffrous a dynamig a chefnogi esblygiad lletygarwch yng Ngogledd Cymru.

Gweler ein henillwyr blaenorol