English

manual override of alt text

GWOBRAU PRENTISIAETHAU 2023

PRENTIS Y FLWYDDYN

Rheolaeth

YN ÔL



DEWIS EICH ENWEBAI

manual override of alt text

Ceri Lynn Lewis-Pierce

Unlocked Learning Cymru Mwy am Ceri Lynn Lewis-Pierce
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Rheolaeth

Ceri Lynn Lewis-Pierce

Unlocked Learning Cymru

Mae Ceri’n defnyddio’r sgiliau mae hi wedi’u hennill yn ystod ei Phrentisiaeth mewn Rheoli (Lefel 3) i ddechrau ei chwmni ei hun sy’n ceisio mynd i’r afael â phryderon amgycheddol, cynaladwyedd a’r argyfwng costau byw.

Wedi cyfnod hir o waeledd, mae Ceri wedi adeiladu partneriaethau gyda sefydliadau a chwmnïau strategol, yn cynnwys undebau llafur, y Learning & Work institute, y Good Things Foundation, Tesco a’r cwmni 2 Sisters Food.

Mae’n defnyddio’r partneriaethau hyn i greu datrysiadau arloesol, yn cynnwys Growing Food at Work, prosiect gyda UNISON a chyflogwyr sector gyhoeddus ar draws Cymru, i alluogi pobl i ddysgu tra’n tyfu bwyd a gwella bioamrywiaeth y tiroedd yn eu gweithleoedd. Mae Ceri hefyd yn plannu rhywogaeth brodorol ar gyfer pob dysgwr mae’n ei gofrestru.

Dywed UNISON Cymru Wales fod ‘Growing Food at Work’ yn rhoi’r sgiliau a’r hyder i weithwyr i dyfu bwyd, a thrwy hynny i leihau allyriadau carbon a helpu gyda chostau byw.

manual override of alt text

David (Daf) Wyn Edwards

Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y GIG Mwy am David (Daf) Wyn Edwards
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Rheolaeth

David (Daf) Wyn Edwards

Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y GIG

Mae David, a adnabyddir fel Daf, yn ddyn hynod. Yn dilyn gwaedlif mawr ar ei ymenydd yn Nhachwedd 2000, nid roddodd y meddygon unrhyw obaith y byddai’n gwella, gan ofyn i’w wraig ystyried rhoi ei organau.

Er hynny, gwrthododd hi roi’r gorau iddi, a deffrodd o goma ychydig wythnosau’n ddiweddarach. Oherwydd y gwaedlif i’r ymenydd, bu’n rhaid i Daf ddysgu sut i siarad, bwyta a cherdded eto, a cymerodd 15 mlynedd iddo wella digon i ddod o hyd i swydd.

Oherwydd ei fod am dalu’n ôl i’r bwrdd iechyd oedd wedi achub ei fywyd, cafodd rôl ystafell gefn yn y Ganolfan Brofi Covid yn Ysbyty Alltwen, Tremadog ar ddechrau’r pandemig.

Wedi ennill cymwysterau, yn cynnwys y Diploma mewn Rheoli Lefel 3, mae gan Daf swydd llawn amser yn adran TGCh ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae wedi bod yn medic ar gyfer Clwb Rygbi Caernarfon ers tair blynedd.

manual override of alt text

Stephanie Celine Harris

Babcock Group Mwy am Stephanie Celine Harris
manual override of alt text

PRENTIS Y FLWYDDYN - Rheolaeth

Stephanie Celine Harris

Babcock Group

Mae Stephanie yn gyfarwydd iawn â gwobrau. Mae’n aelod o’r tîm sy’n mynd i’r afael â gwasanaethu manwl yr awyrennau Hawk TK2 ar gyfer Babcock yn RAF, Y Fali, Ynys Môn.

Wedi ei dewis ar gyfer grŵp cyntaf Prentisiaeth Peirianneg Awyrennol Babcock yn RAF Y Fali yn 2016, enillodd wobr cymeradwyaeth am greadigrwydd. Yn gweithio gyda dau beiriannydd arall, daeth o hyd i ffordd o amnewid bollten oedd wedi ei gosod yn anghywir heb orfod tynnu’r injan allan, fel yr oedd angen ei wneud yn flaenorol.

Derbyniodd Stephanie hefyd y wobr Local Networking Prize for Engineering Excellence gan yr Institute of Engineering and Technology ac, yn ddiweddar, ychwanegodd y wobr Diogelwch yn y Gweithle am adnabod nam ym mecanwaith clo parasiwt brêc.

Mae hi’n llawn cymhelliant, yn cyflwyno gwaith o safon yn gyson ac yn ceisio’n barhaus i wella’r ffyrdd i wneud pethau.

Mae Stephanie wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Peirianneg Awyrennol a Phrentisiaeth mewn Rheoli (Lefel 3) ac wedi cynrychioli Babcock mewn digwyddiadau STEM a gyrfaoedd.

Noddwyd Gan

Glanbia

Mae Glanbia yn ymroddedig i ddarparu bwyd iach, diodydd a chynhyrchion maethol eraill ar gyfer pob cam o daith bywyd. Mae hynny'n golygu ein bod yn chwilfrydig am ddod o hyd i ffyrdd o wneud cynhyrchion gwell, iachach a doethach sy'n gweddu i ffordd o fyw ac anghenion pobl ledled y byd. Rydym yn arloesi, yn datblygu ac yn ailddyfeisio yn gyson, gan greu cynhyrchion sy'n ffitio'n hawdd i fywydau beunyddiol pobl. Mae’r awydd i wneud yn well wedi’i wreiddio yn ein busnes – rydym yn gofalu parchu’r blaned, cymunedau a phobl wrth i’n taith ein hunain fynd rhagddi.

Gweler ein henillwyr blaenorol