Ni adawodd Naomi i’r pandemig a’r ysgytwad o ddamwain beic modur ddifrifol ei brawd ei rhwystro rhag ennill ei Phrentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Barbwr (Lefel 2).
Tra’n cefnogi ei theulu wedi’r ddamwain, a adawodd ei brawd mewn coma ac angen llawdriniaeth ar yr ymenydd, llwyddodd i barhau i weithio, i fynychu’r coleg ac i gwblhau ei phrentisiaeth chwe mis un fuan.
Mae Naomi, sydd wastad wedi bod eisiau trîn gwallt, wedi symud ymlaen i Lefel 2 mewn Trîn Gwallt erbyn hyn ac yn bwriadu parhau i ddysgu er mwyn cynnig y safonau gorau posibl. Canmolwyd hi am ei hymroddiad, ei hymrwymiad a’i medrusrwydd gan ei chyflogwr a’i hasesydd.