Amlygwyd ffordd ymgysylltiol Ryan, sy’n gymhorthydd dysgu, o weithio gyda phlant ifanc fel cryfder yn arolwg diweddar Estyn i Saltney Ferry County Primary School.
Ymunodd Ryan â thîm blynyddoedd cynnar yr ysgol ym mis Medi 2021, pan ddechreuodd ar gymhwyster Lefel 2, ac mae wedi cynyddu ei sgiliau a’i hyder.
Disgrifiodd yr ysgol ef fel “ased gwych”, sydd bob amser yn barod am yr her nesaf – o ddyn cinio i arwr amser stori! Mae’r plant yn meddwl y byd ohono ac mae wedi dod yn fodel rôl gwrywaidd positif i’r bechgyn.
“Mae gan Ryan ffordd mor hyfryd gyda’r plant. Mae rhai pethau na ellir eu haddysgu, ac roedd hyn i’w weld yn glir pan ymunodd Ryan â’n tîm yn y lle cyntaf,” meddai’r ysgol.
Mae’n cefnogi grwpiau o blant gyda sgiliau sylfaenol ac yn eu hymgysylltu gyda gweithgareddau hwyliog lle nad ydynt yn sylweddoli eu bod yn dysgu.