
Ryan sydd wedi ennill gwobr Prentis y Flwyddyn - Chwaraeon, Addysg & Gofal Plant. Llongyfarchiadau Ryan!
Roedd Ryan yn ddysgwr pryderus iawn ar y dechrau heb lawer o hyder. Roedd wedi gadael addysg bellach oherwydd nad oedd yn teimlo ei fod yn academaidd iawn. Drwy ddamwain gwelodd Ryan gyfle i gwblhau cwrs hyfforddi ym maes chwaraeon mewn hysbys ar y cyfryngau cymdeithasol ac mi benderfynodd fynd amdani a chofrestru arno. Roedd ei agwedd a'i bresenoldeb yn ardderchog ac roedd yn ffynnu yn yr amgylchedd dysgu.
Wrth i hyder Ryan godi, aeth ymlaen drwy'r cyrsiau a chanfod ei swydd ddelfrydol fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu yn Ysgol Maes y Felin. Unwaith eto cafodd gyfle i ffynnu yn yr amgylchedd dysgu ac roedd yn sefyll allan yn ei rôl yn cefnogi dysgu.
Roedd ei fentoriaid yn y gweithle yn llawn canmoliaeth iddo ac mae o'n mwynhau cynorthwyo plant yn yr amgylchedd dysgu. Cafodd farciau ardderchog yn ystod yr arsylwadau yn y gweithle ac er iddo gael trafferth gydag ambell beth, datblygodd ei waith academaidd i safon dda. Llwyddodd i ennill cymhwyster Lefel 2 mewn Rhifedd, Llythrennedd a Llythrennedd Digidol yn ogystal â gweithio ar ei raglen dysgu.
Mae Ryan yn gweithio yn yr ysgol erbyn hyn ac yn cwblhau gwaith ar gyfer ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Addysgu. Mae o'n mwynhau cefnogaeth ei diwtoriaid ac yn gwrando'n ofalus ar adborth er mwyn datblygu ymhellach yn unigolion hyderus a chymwys.