
Llongyfarchiadau Shannon!
Gwnaeth Shannon gynnydd ardderchog ar ei phrentisiaeth er gwaetha'r ffaith iddi fynd ar ffyrlo yn ystod y cyfnod pan gaewyd y siop ble roedd hi'n gweithio yn ystod y pandemig.
Llwyddodd i barhau i wneud cynnydd da yn y gweithle ac ennill dyrchafiad i swydd oruchwylio â chyfrifoldebau rheoli. Mae hi wedi bod yn ddigon anodd ar Shannon, mae hi wedi goresgyn nifer o rwystrau personol fyddai wedi llethu unigolyn llai penderfynol.
Magodd Shannon lawer o hyder a hunan-barch ar ôl cwblhau'r brentisiaeth, roedd ysgol yn peri trafferth iddi ond diolch i'r rhaglen brentisiaethau ac agwedd benderfynol Shannon mae hi wedi gallu dechrau ar ei gyrfa gyda Yours Clothing.