
Llongyfarchiadau Lucy, Hyfforddeiaeth y Flwyddyn!
Ers cofrestru ar y Rhaglen Hyfforddi mae Lucy wedi creu argraff drawiadol ac wedi gwneud cynnydd yn gyflym. Cafodd gyfle profiad gwaith ym Meithrinfa Beach House yn y Rhyl, a gwnaeth gymaint o argraff ar ôl ychydig wythnosau fe gynigiwyd prentisiaeth iddi yno.
Mae gan Lucy spina bifida ond mae hi wedi dangos fod ganddi allu da iawn yn y sector, ac mae hi wedi parhau i wneud argraff.
Dywedodd Louise Macabre-Allen o Beach House:
"Mae Lucy wedi aeddfedu a magu hyder yn ystod y tair wythnos gyda ni. Mae'r ffordd mae hi'n rhyngweithio efo'r plant yn wych. Mae hi'n gweld beth sydd angen ei wneud ac yn cyflawni tasgau heb i ni orfod gofyn iddi wneud hynny.
"Pan gawsom ni ein harolygiad dirybudd gan ein rheoleiddwyr, Arolygiaeth Gofal Cymru, roedd yr arolygwr wedi'i synnu o ddeall mai myfyriwr oedd Lucy gan ein bod yn ymddwyn ac yn gweithredu fel y byddech chi'n ei ddisgwyl gan aelod staff parhaol.
"Aeth gyda chriw i'r Seaquarium a dangosodd aeddfedrwydd a gallu rhagorol tra roedd hi allan efo'r plant a'r staff."